To increase security, speed and for a better experience when using our website, we recommend upgrading your browser

Suggested Searches
Section
0 Results Found
See all results

Buy or Rent

Buy or Rent

Residential or Commercial
Buy or Rent
Location
Scheme
Search all homes

Enquiry

Enquiry

Get on the list

Get on the list

Get the latest news on property development, placemaking, architecture, careers, new homes and workspaces straight into your inbox.

Abertawe

Y Ddinas ar y Traeth

Rydym yn ymfalchïo bod Abertawe yn Ddinas y Traeth; dinas sydd â rhywbeth unigryw i'w gynnig, lle mae'r awyr agored ar garreg y drws. Amser braf ar y dŵr ac wrth ymyl y dŵr. Ehangder yr awyr a golygfeydd o gopaon mynyddoedd. Tywod rhwng bysedd eich traed ac amser cinio ar y traeth.

Yn gryno, mae'n fodel o ddinas ardderchog i fyw ynddi. Lle mae ansawdd bywyd, iechyd a llesiant, tegwch, a ffyniant cyffredin yn gwneud y Ddinas yn fan gwych i fyw ynddi, i weithio a chynnal busnes ynddi, ac i ymweld â hi a'i mwynhau.

Y Safleoedd Strategol

Mae ein cytundeb partneriaeth 20 mlynedd â Chyngor Dinas Abertawe yn dechrau gyda saith safle strategol. Mae'r gwaith o adfywio pob safle yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth, a gyda'i gilydd bydd y rhain yn creu naratif ehangach sy’n uno Abertawe.

Gadewch i ni gyflwyno'r tri safle cyntaf i chi:

Glannau'r Ddinas

Glannau'r Ddinas

Cyrchfan o safon fyd-eang ac ardal glan môr ddinesig newydd ar gyfer Abertawe, lle mae'r ddinas yn cwrdd â'r traeth.

Bydd prosiect arfaethedig Glannau'r Ddinas yn cynnwys cyrchfan newydd sbon ar lan y dŵr i drigolion ac ymwelwyr ymgynnull, ymlacio a mwynhau golygfeydd godidog Bae Abertawe. Gan eistedd ar ben draw Ffordd i’r Môr, sydd newydd gael ei chreu, ac yn cysylltu canol y ddinas a'r Arena yn uniongyrchol â’r traeth, bydd adeilad y Ganolfan Ddinesig, sydd wedi’i ailddyfeisio a’i addasu, yn ganolbwynt bywiog i'r ardal newydd, ac yn cynnwys mannau i fwyta, yfed a chael eich diddanu, gan gynnwys 150,000 troedfedd sgwâr o ofod masnachol a hyd at 600 o gartrefi. Bydd caffis, barrau a siopau newydd ar y lloriau gwaelod, gyda fflatiau, gofod gweithio, acwariwm, gwesty a gofod digwyddiadau i gyd yn rhan o’r gymysgedd hefyd. Bydd yn lle unigryw ble mae’r ddinas wir yn cwrdd â’r traeth

Gwaith Copr Hafod

Gwaith Copr Hafod

Cyrchfan sy’n cael ei harwain gan dreftadaeth a hamdden yng nghanol cymdogaeth defnydd cymysg ar lan yr afon.

Mae Cyngor Abertawe ac Urban Splash yn datblygu fframwaith gofodol strategol newydd a gweledigaeth ddatblygu ar gyfer y safle hanesyddol hardd hwn ar lannau Afon Tawe, yn agos at stadiwm Swansea.com a Pharc Manwerthu Morfa. Mae’r cynllun yn nodi amrywiaeth o leiniau datblygu a chyfleoedd ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddiau a meddianwyr hyblyg – masnachol a phreswyl – i ategu’r miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad cyhoeddus a phreifat sydd eisoes yn mynd i’r safle. Mae cyllid Codi’r Gwastad sylweddol yn dod â bywyd newydd i’r adeiladau treftadaeth presennol, ochr yn ochr ag atyniadau hamdden newydd a chyffrous sy’n arwain y byd, gan gynnwys Distyllfa a Chanolfan Ymwelwyr Penderyn a agorwyd yn ddiweddar. Cyfuniad o'r hen a newydd, cyffro ac ymlacio, lleol a rhyngwladol.

Canol Abertawe

Canol Abertawe

Swyddfa fodern a champws dysgu. Yng nghanol dinas fywiog. Ychydig funudau o'r traeth.

Wedi’i ddylunio gan benseiri blaenllaw yn y DU, bydd cynllun arfaethedig Canol Abertawe yn dod â 300,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa Gradd A newydd a gofod masnachol defnydd cymysg i ganol Abertawe mewn cyfres o adeiladau unigryw wedi’u clystyru o amgylch mannau gwyrdd newydd heddychlon sy’n edrych dros eglwys hanesyddol yng nghanol y ddinas. Bydd sefydliadau addysg a gofod ar gyfer gwneuthurwyr creadigol hefyd yn rhan o’r gymysgedd, ochr yn ochr â chaffis a bwytai sy’n ystlysu’r llwybr i Arena Abertawe, a phob un o fewn taith gerdded pum munud o’r traeth.

Urban Splash Newsplash

Eisiau cael gwybod am yr holl bethau sy'n digwydd yn Abertawe? Yna cofrestrwch ar gyfer Newsplash!

Anfonir ein crynodeb newyddion misol gyda'r newyddion diweddaraf a mwyaf ffres am greu lleoedd, tai, gweithleoedd, pensaernïaeth, digwyddiadau a gyrfaoedd yn syth i'ch mewnflwch.

Chwilio am rywbeth arall?